Datasets:
Recordiadau Byr Common Voice Cymraeg
Mae'r set data yma wedi ei gynhyrchu drwy torri recordiadau maint arferol ac/neu hir o Common Voice 18 , i darnau llai drwy defnyddio model 'Voice Activity Detection (VAD)'. Er enghraifft, gall recordiad o frawddeg fel "Ffotograffau a darluniau du-a-gwyn." cael ei thorri i dair recordiad byr: "Ffotograffau", "a darluniau", "du-a-gwyn".
Defnyddwyd yn benodol split train_missing, sef recordiadau o frawddegau set hyfforddi swyddogol Common Voice Cymraeg sydd wedi eu heithrio, fel ffynhonnell o recordiadau arferol neu hir.
O ganlyniad, amcan y set data yma yw:
cynyddu defnydd data Common Voice Cymraeg
hyfforddi modelau adnabod lleferydd i allu drawsgrifio darnau llai o sain
Rhagor o Wybodaeth
Rydych yn cytuno i beidio â cheisio pennu pwy yw'r siaradwyr yn set ddata Common Voice
Pam gofyn am fynediad? Ar ei wefan, mae angen e-bost gan Mozilla cyn ei lawrlwytho set data o'u wefan, rhag ofn y bydd angen gysylltu â chi yn y dyfodol ynghylch newidiadau i’r set ddata. Mae e-bost yn rhoi pwynt cyswllt i ni ar gyfer trosglwyddo unrhyw negeseuon.
- Downloads last month
- 19